Eich CV yw eich cyfle i arddangos eich sgiliau a’ch profiad i gyflogwr. Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod.
CV – Beth i Wneud a Beth i Beidio
Creu eich proffil personol
Yn eich proffil personol, dylech ysgrifennu tua 4 neu 5 llinell sy’n nodi eich prif gryfderau a’ch sgiliau.
Gwelwch rhai o’r cryfderau y mae cwmnïau yn chwilio amdanynt isod:
CVau enghreifftiol
Mae’r fath o CV rydych yn ei ddefnyddio yn dibynnu ar y swydd rydych yn gwneud cais amdani. Mae’n hynod bwysig dewis yr un cywir.
Gyda CVau, nid yw un maint yn ffitio pawb. Mae’n hynod bwysig addasu eich CV, a gorau po fwyaf ymdrech rydych yn ei roi. Dylai’ch CV bwysleisio’r sgiliau sy’n cyd-fynd ag anghenion y cyflogwr, ac weithiau bydd angen defnyddio templed CV gwahanol i gyflawni hyn.
Yn aml, mae pobl yn creu un CV ac yn anfon hwn at bob cyflogwr neu swydd. Nid yw hyn yn arfer da, ac fe allai arwain at golli allan ar gyfweliad, neu hyd yn oed cynnig am swydd.
Bwrwch olwg ar ein CVau enghreifftiol i weld pa un sydd orau i chi:
Templedi CV
Mae croeso i chi lawr-lwytho a defnyddio’r templedi CV canlynol.
Cliciwch isod i lawr-lwytho’r templed CV Cain.
Cliciwch isod i lawr-lwytho’r templed CV Trawiadol.
Cliciwch isod i lawr-lwytho’r templed CV Syml.
Cysylltwch â ni
Ein nod yw helpu chi i archwilio eich cyfleoedd gyrfaol er mwyn cyflawni, gwneud cynnydd a dod o hyd i swyddi boddhaus.
Oes cwestiynau gennych, neu oes angen mwy o wybodaeth arnoch?
Llenwch y ffurflen neu ffoniwch y tîm:
01656 302 302