
JOB DESCRIPTION
Job Title: Senior Welfare Person
Salary: £21,000 + (dependent on experience)
Benefits: 28 days annual leave entitlement, staff parking, yearly performance-based bonuses, team days out through the year.
Hours: Sunday – Thursday 7:30am-5:00pm (weekend, bank holiday and evening work may be required)
Contract: Full time, permanent
Location: Talog, Carmarthenshire.
THE ROLE
A multi-faceted role focusing on providing the highest levels of care and welfare management to all types of dogs at The Dog House, a prestigious activity holiday and training facility.
Duties:
- Keep thorough records of each animal, from arrival, through stay, until departure using systems and other documentation in accordance with procedures and data protection legislation. Maintaining and updating checklists and producing end of stay reports.
- Follow strict guidelines to maintain the cleanliness of ‘our guests’ areas to the highest standards including cleaning and disinfecting animal accommodation, food preparation areas, laundry and outside areas
- Prepare food, medication and water for each dog in your care
- Carry out daily health checks and report any physical changes to management • Delegating daily and weekly duties to a small team
- Communicating with clients and support management with a range of administrative duties • Handling and exercising dogs, including a couple of weekly night walks
- Ad Hoc duties as required
PERSON SPECIFICATION
You will be reliable, upbeat and in good shape with an eye for detail. Incredibly organised and a great communicator you are able to balance a range of tasks, managing your time and prioritising yours and your teams’ duties effectively. You are able to take responsibility for your team, checking over duties to see they have been performed correctly and ensuring the safety of ‘our guests’. Happy to balance practical duties with administrative a large part of this role is writing reports and contributing to the administrative work that under pins the running of The Dog House.
PREFERRED SKILLS
- Experience with dog welfare, medication.
- Experience/Understanding of dog nutrition
- Experience with dog training and or behaviour
- Experience with Microsoft office, producing reports and use of other database systems
To apply please email your CV/interest to Mark Thompson – mark@thedoghouseonline.net Or visit our website to find out more about us – www.thedoghouseltd.com
DISGRIFIAD SWYDD
Teitl y Swydd: Uwch Berson Lles
Cyflog: £21,000 + (yn dibynnu ar brofiad)
Buddion: 28 diwrnod o wyliau blynyddol, cyfleusterau parcio ar gyfer staff, bonysau yn seiliedig ar berfformiad blynyddol, diwrnodau allan i’r tîm drwy gydol y flwyddyn. Oriau: Sul – Iau 7:30am-5:00pm (mae’n bosib y gofynnir i chi weithio ar benwythnosau, gwyliau banc a chyda’r nos)
Contract: Llawn amser, parhaol
Lleoliad: Talog, Sir Gaerfyrddin.
Y RÔL
Mae hon yn rôl amlochrog sy’n canolbwyntio ar gynnig lefelau gofal a rheoli lles uchel i bob mathau o gŵn yn The Dog House, cyfleuster gwyliau gweithgaredd a hyfforddiant o fri.
Dyletswyddau:
- Cadw cofnodion trylwyr ar gyfer pob anifail, o’r amser y mae’n cyrraedd, yn ystod ei arhosiad a nes iddo adael, gan ddefnyddio systemau a dogfennaeth arall yn unol â gweithdrefnau a deddfwriaeth diogelu data. Cadw a diweddaru rhestrau gwirio a pharatoi adroddiadau ar ddiwedd arhosiad pob anifail.
- Dilyn canllawiau llym a sicrhau’r safonau uchaf o ran glendid yr ardaloedd a ddefnyddir gan ‘ein gwesteion’, gan gynnwys glanhau a diheintio llety anifeiliaid, ardaloedd paratoi bwyd, ardaloedd golchi ac ardaloedd allanol
- Paratoi bwyd, meddyginiaeth a dŵr ar gyfer pob ci sydd yn eich gofal • Cynnal gwiriadau iechyd dyddiol a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau corfforol i’r rheolwyr
- Dirprwyo dyletswyddau dyddiol ac wythnosol i dîm bach
- Cyfathrebu â chleientiaid a chynorthwyo’r rheolwyr gydag ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol
- Trin ac ymarfer cŵn, gan gynnwys mynd â chŵn am dro gyda’r nos ddwywaith yr wythnos
- Cyflawni dyletswyddau eraill yn ôl y gofyn
MANYLEB PERSON
Byddwch yn berson dibynadwy, siriol, corfforol iach a manwl gywir. Yn hynod drefnus
ac yn gyfathrebwr gwych, byddwch yn gallu cyflawni amrywiaeth o dasgau, gan reoli eich amser a blaenoriaethu eich dyletswyddau personol a dyletswyddau’r tîm yn effeithiol. Byddwch yn gallu cymryd cyfrifoldeb am eich tîm, gan fwrw llygaid dros y dyletswyddau i wirio eu bod wedi’u cyflawni’n gywir a sicrhau diogelwch ‘ein gwesteion’. A chithau’n hynod hapus i gyflawni dyletswyddau ymarferol a gweinyddol, mae rhan helaeth o’r rôl hon yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau a chyfrannu at y gwaith gweinyddol sy’n tanategu’r gwaith o redeg The Dog House.
SGILIAU A FFEFRIR
Yn brofiadol o ran lles cŵn, meddyginiaeth
Profiad/dealltwriaeth o faetheg cŵn
Profiad o hyfforddi cŵn a/neu ymddygiad
Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office, paratoi adroddiadau a defnyddio cronfeydd data eraill
I ymgeisio, mynegwch eich diddordeb / e-bostiwch eich CV at Mark Thompson – mark@thedoghouseonline.net neu ewch i’n gwefan i ddysgu mwy amdanom www.thedoghouseltd.com